Am y Prosiect
Mae Grantiau Bach i Ofalwyr Caerffili yn gynllun ar gyfer gofalwyr di-dâl sy’n byw yng Nghyngor Bwrdeistref Caerffili, gan ddarparu mynediad i gymorth untro i unigolion sy’n gofalu am anwylyn gyda’r nod o gefnogi eu rôl gofalu a’u helpu i wynebu’r argyfwng costau byw. Mae Gofalwyr Di-dâl, yn llawer rhy aml, yn anwybyddu eu hanghenion eu hunain. Mae’r Cynllun Grantiau Bach i Ofalwyr Caerffili yn anelu i wneud bywyd pob dydd ychydig yn haws i unigolion sy’n gofalu am aelod o’r teulu, ffrind, partner, neu gymydog, trwy helpu i leddfu pwysau’r cynnydd mewn costau byw a gwella llesiant a gwytnwch.
Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?
Gall y cynllun hwn gefnogi pob gofalwr di-dâl sy’n byw ym Mwrdeistref Caerffili. Gallai gofalwyr di-dâl fod yn berthnasau, ffrindiau, partneriaid neu gymdogion sy’n darparu cefnogaeth ymarferol ac emosiynol yn ddyddiol ar gyfer unigolyn sydd â chyflwr iechyd corfforol neu feddyliol, yn cynnwys niwroamrywiaeth a dementia.
Sut ydyn ni’n ei wneud?
Gellir defnyddio grantiau bach ar gyfer un o’r opsiynau canlynol:
- sesiynau cwnsela ar-lein: hyd at chwe sesiwn cwnsela un awr rhithiol, wedi eu cynnal gan ein tîm hynod gymwys o gwnselwyr sydd ag achrediad BACP o’n gwasanaeth ‘Problem a Rennir’ o fewn ein menter gymdeithasol. Bydd y sesiynau hyn yn canolbwyntio ar adeiladu gwytnwch, gwella strategaethau ymdopi, a meithrin twf personol.
- talebau hyd at £300 ar gyfer costau nwyddau: gellir eu dyroddi ar ffurf talebau ar gyfer prynu nwyddau gwyn, eitemau i’r tŷ, neu offer fydd yn eich helpu gyda’ch dyletswyddau gofalu, gan roi mwy o amser i chi neu leihau straen tasgau penodol NEU dalebau archfarchnad i brynu dillad neu fwyd i’ch helpu chi a’r person rydych yn gofalu amdanynt gyda’r argyfwng costau byw presennol.
- cyngor ariannol: cefnogaeth ariannol bwrpasol dros y ffôn i helpu gyda rheoli costau, edrych ar y gefnogaeth ariannol sydd ar gael, cwblhau gwiriadau budd-daliadau lles, mynediad i grantiau / cronfeydd caledi / tariffau cymdeithasol / band llydan a gwasanaethau, ceisio am gronfeydd cymorth dewisol (DAF), taliadau tai dewisol (DAF), gostyngiadau cartrefi cynnes (WHD) a chyllid inswleiddio, cyllido a chynllunio ariannol, galwadau / data / negeseuon testun ffôn symudol rhad ac am ddim ar gyfer aelwydydd incwm isel.
Atgyfeirio
Gall gofalwyr neu eu gweithwyr cymorth gysylltu gan gysylltu â [email protected] i dderbyn y ffurflen gais ar-lein. Rhaid i ofalwyr o dan 16 oed cwblhau’r cais gyda oedolyn.
Gall prosesu gymryd hyd at 4 wythnos.